Mae Adran 134 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn mynnu bod Byrddau Diogelu Oedolion rhanbarthol ar waith o fis Ebrill 2016. Bydd hyn yn rhoi sail statudol i ddiogelu oedolion tebyg i’r hyd sy’n bodoli mewn diogelu plant.
Yn ôl y Ddeddf, Amcanion Bwrdd Diogelu Oedolion yw:
- Amddiffyn oedolion yn ei ardal sydd ag anghenion gofal a chymorth (boed awdurdod lleol yn diwallu unrhyw un o’r anghenion hynny ai peidio: ac sydd yn profi, neu mewn perygl o brofi, camdriniaeth neu esgeulustra,
- Atal yr oedolion hynny yn ei ardal a grybwyllir uchod, rhag bod mewn perygl o gael eu cam-drin neu ddioddef esgeulustod.
Penderfynodd Gogledd Cymru, cyn i’r ddeddfwriaeth ddod i rym y byddai’n cychwyn ar y cam cynllunio i sefydlu Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru (BDOGC). O fewn strwythur BDOGC, byddai tri grŵp darparu lleol yn cael eu creu gan y chwe awdurdod lleol yn ardaloedd Gwynedd a Môn; Conwy a Sir Ddinbych; Sir y Fflint a Wrecsam. Cynigiwyd hefyd y dylai meysydd fel hyfforddiant, perfformiad ac archwilio, polisïau ac adolygiadau achosion difrifol gael eu cyflawni’n rhanbarthol. Roedd y strwythur hwn yn dilyn yr un patrwm ag yn diogelu Plant.
Swyddogaeth Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru yn fras yw:
Paratoi:
- Cyflogi’r bobl iawn a chael arferion cyflogaeth diogel, arferion diogelu corfforaethol da yn yr holl asiantaethau, gan gynnwys gwasanaethau a gomisiynwyd ac a gontractiwyd. Datblygu cynllun hyfforddi, gosod safonau rhanbarthol, a pholisïau a gweithdrefnau rhanbarthol da, cael strategaethau ar gyfer: Cyfathrebu – mewnol ac allanol a Gweithio gyda phartneriaethau eraill.
- Ddysgu, a rhannu’r hyn a ddysgwyd oddi wrth: Adolygiadau Arfer, Cwestau, a Digwyddiadau Sydyn Anffafriol. Grŵp Adolygu Arfer i Oedolion y mae pob asiantaeth yn cyfrannu ato, Grwpiau Cyflenwi cryf, a dolenni adborth i sicrhau dysgu a gweithredu ar y cyd a chylchoedd gwaith clir ar gyfer is-grwpiau.
- Sicrhau cynrychiolaeth dda ar SAB a grwpiau darparu a chylch gorchwyl cywir.
Atal:
- Camdriniaeth, esgeulustod, cam-fanteisio rhywiol ac ariannol yn y cartref, mewn cartrefi gofal, ysbytai a mannau eraill, codi ymwybyddiaeth ym mhob man, ac ar gyfer pob unigolyn diamddiffyn. Grymuso pobl ddiamddiffyn drwy ddefnyddio eiriolwyr / canolwyr a sicrhau bod cysylltiadau a sianeli da ar gyfer negeseuon: Cyfryngau, Partneriaethau, Gwefan.
- Sefydlu llwybrau clir i bawb gael gwybodaeth, rhannu arfer da a dysgu.
Amddiffyn:
- Eglurder ynghylch swyddogaethau a chyfrifoldebau, rhesymau clir ar gyfer grwpiau ac aelodau. Drwy godi proffil diogelu oedolion a gwella gwaith amlasiantaeth.
- Ymagwedd gyson a dealltwriaeth gyffredin, ymwybyddiaeth / hyfforddiant. Integreiddio darparwyr a rhannu arfer da, cynnal fforwm Darparwyr; adborth. Gosod safonau ar gyfer: Ymchwiliadau, Cynlluniau a DoLS, gwell defnydd o wybodaeth, dadansoddi a dysgu gwersi
Dilyn:
- Eglurder o ran sut y mae strwythurau’n cysylltu yn ôl i ymarferwyr a budd-ddeiliaid, ansawdd – dylanwadu ar waith. Ymwybyddiaeth, parodrwydd – e.e. ar gyfer Adolygiadau Arfer Oedolion, datblygu Polisïau a Gweithdrefnau, dysgu – ffurfio arferion da a gwael, achosion, cyfathrebu, llywodraethu a swyddogaethau symlach.
Ychwanegu gwerth a gwella canlyniadau ar gyfer oedolion diamddiffyn sydd angen eu diogelu a’u hamddiffyn
Datblygu a darparu cyfeiriad strategol rhanbarthol
Cyfarwyddo a monitro grwpiau rhanbarthol ar gyfer hyfforddiant a datblygu’r gweithlu; polisïau a gweithdrefnau; cyfathrebu ac ymgynghori ac adolygiadau arfer oedolion
Datblygu a monitro fframwaith rheoli perfformiad
Ddarparu her a chymorth i asiantaethau rhanbarthol ac Awdurdodau Lleol
Cynnig rhyngwyneb gyda Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Diogelu Cenedlaethol
Cytuno ar, a rheoli’r gyllideb
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English